Cofnodion - Y Pwyllgor Busnes


Lleoliad: Ar-lein

Dyddiad: Dydd Mawrth, 14 Mai 2024

Amser: 09.02 - 09.46
 


Remote / Private

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Pwyllgor:

Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd)

Heledd Fychan AS

Jane Hutt AS

Darren Millar AS

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Yan Thomas (Dirprwy Glerc)

Eraill yn bresennol

Jane Dodds AS

David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth

Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Helen Carey, Llywodraeth Cymru

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Croesawodd y Llywydd yr aelodau i’r cyfarfod. Anfonodd y Llywydd ymddiheuriadau ar gyfer eitemau 6.1 a 6.2, a gafodd eu cadeirio gan y Dirprwy Lywydd.

 

</AI1>

<AI2>

2       Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

</AI2>

<AI3>

3       Trefn Busnes

</AI3>

<AI4>

3.1   Busnes yr wythnos hon

Dydd Mawrth

Gofynnodd Darren Millar a Heledd Fychan am ddatganiad llafar gan y Prif Weinidog ar ei ymweliad â Tata Steel yn India. Nododd y Trefnydd fod datganiad ysgrifenedig wedi'i gyhoeddi a chytunodd i ychwanegu datganiad llafar ar y mater at agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw:

 

·         Datganiad gan y Prif Weinidog: Tata Steel (60 munud)

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.00pm

 

Dydd Mercher

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynigion i newid aelodau Llafur ar nifer o bwyllgorau i'w hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher. Felly, cytunwyd ar y newid a ganlyn i agenda dydd Mercher: 

 

·         Cynnig i ethol Aelodau i bwyllgorau (5 munud)

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.15pm

 

</AI4>

<AI5>

3.2   Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am yr ychwanegiad a ganlyn i amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 4 Mehefin 2024

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol: Diwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol - ailddatgan ein gwerthoedd (45 munud)

 

Gofynnodd Heledd Fychan am eglurder ynghylch a fydd y datganiad uchod yn canolbwyntio ar bortffolio llawn Ysgrifennydd y Cabinet. Dywedodd y Trefnydd y byddai hyn yn digwydd.

 

</AI5>

<AI6>

3.3   Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cytunwyd ar yr newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf:   

 

Dydd Mercher 12 Mehefin 2024 –

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Gweithredu, nid geiriau: creu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030 (60 munud)

 

</AI6>

<AI7>

3.4   Cynigion deddfwriaethol yr Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynnig arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu’r cynnig ar 22 Mai: 

 

Sioned Williams

NNDM8580

Cynnig bod y Senedd:  

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil addysg wleidyddol. 

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:  

a) sicrhau bod pob dysgwr mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru yn cael addysg benodol yn ymwneud â gwleidyddiaeth a democratiaeth Cymru; 

b) ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol a choleg sicrhau bod dysgwyr yn deall pwysigrwydd ymgysylltu dinesig ym mhroses ddemocrataidd Cymru; ac 

c) sicrhau bod pobl ifanc 16 ac 17 oed yn teimlo'n fwy hyderus a gwybodus am etholiadau a phwrpas a phroses bwrw eu pleidlais. 

 

</AI7>

<AI8>

3.5   NNDM8578 – Dyfodol gwaith dur Port Talbot

Trafododd y Pwyllgor Busnes gais a wnaed gan Luke Fletcher i drefnu dadl ar Gynnig Heb Ddyddiad Trafod 8578 ynghylch dyfodol gwaith dur Tata ym Mhort Talbot.

Mynegodd Heledd Fychan gefnogaeth i amserlennu dadl ar y cynnig.

Cytunodd mwyafrif ar y Pwyllgor Busnes y dylid ychwanegu datganiad llafar gan y Prif Weinidog ar y pwnc hwn at agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw yn hytrach nag amserlennu dadl, fel y dangosir o dan eitem 3.1.

 

</AI8>

<AI9>

4       Deddfwriaeth

</AI9>

<AI10>

4.1   Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Trafododd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf gan y Trefnydd a chytunodd i wneud yr hyn a ganlyn:

 

 

</AI10>

<AI11>

4.2   Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol

Nododd y Pwyllgor Busnes lythyr y Pwyllgor a'i sylwadau ynghylch pwysigrwydd rhoi digon o amser i bwyllgorau graffu ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol.

 

</AI11>

<AI12>

4.3   Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch ei adolygiad arfaethedig o Reol Sefydlog 29.1

Trafododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a chytunodd i ymateb i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i nodi ei fod yn disgwyl ystyried ymhellach ei waith ar y broses cydsyniad deddfwriaethol, gan gynnwys y materion a godwyd, cyn toriad yr haf.

 

</AI12>

<AI13>

5       Pwyllgorau

</AI13>

<AI14>

5.1   Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ynghylch cylch gwaith y pwyllgor

Trafododd y Pwyllgor Busnes lythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ynghylch ei gylch gwaith a chytunodd i ysgrifennu at bwyllgorau eraill y Senedd i'w gwahodd i roi eu barn ar gylch gwaith presennol y pwyllgorau, yng ngoleuni newidiadau i bortffolios gweinidogol.  

 

 

</AI14>

<AI15>

6       Gwaith Gweithdrefnol

</AI15>

<AI16>

6.1   Trefniadau cadeirio dros dro Pwyllgor y Llywydd

Trafododd y Pwyllgor Busnes newid arfaethedig i Reol Sefydlog 18B a’r canllawiau drafft sy’n gysylltiedig â hyn a chytunwyd i adroddiad drafft gael ei lunio i gynnig y newid i’r Senedd.

 

</AI16>

<AI17>

6.2   Terfyn amser ar gyfer cyflwyno gwelliannau

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur yn cynnwys opsiynau i ganiatáu rhagor o amser rhwng terfynau amser cyflwyno gwelliannau deddfwriaethol a thrafodion ar y gwelliannau hynny.

Cytunodd y Pwyllgor i ddychwelyd at y mater yn ei gyfarfod nesaf i gael trafodaeth bellach ar y posibilrwydd o ddwyn ymlaen y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwelliannau i saith diwrnod cyn y trafodion, a hynny dros dro, cyn yr adolygiad ehangach o’r broses graffu ddeddfwriaethol a drefnwyd yn ei raglen waith gweithdrefnol.

 

</AI17>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>